Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriad ar ddiwygio'r cwricwlwm – Cam 1
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch fel rhan o'r ymgynghoriad hwn (megis eich enw, teitl eich swydd, manylion cyswllt, man gwaith neu leoliad) yn cael ei phrosesu o dan y sail gyfreithiol o'n galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheoleiddiwr y system gymwysterau yng Nghymru ac i arfer ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015. Cymwysterau Cymru fydd "rheolydd data" y data hwn.
Ein dibenion wrth gadw'r data personol a ddarperir gennych yw bodloni gofynion ein polisi ymgynghori i gefnogi ein prif amcanion, sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn y system gymwysterau yng Nghymru.
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall ac eithrio wrth arfer ein tasg gyhoeddus. Cynhelir yr ymgynghoriad gan gorff ymchwil trydydd parti, Ymchwil Arad, ar ran Cymwysterau Cymru a bydd yr ymatebion yn cael eu casglu drwy SmartSurvey. Bydd y data a gesglir, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol a gynhwysir mewn ymatebion agored, yn cael ei gadw yn ôl ein hamserlen gadw.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch fod yr holl wybodaeth ysgrifenedig sydd gennym, fel corff cyhoeddus, yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn rhoi sylw i Ddeddf Diogelu Data 2018 y DU a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) cyn datgelu unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i:
- wneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch chi
- cywiro unrhyw gamgymeriadau
- cael eich data personol wedi'i ddileu
- gosod cyfyngiad ar ein gwaith o brosesu eich data
- gwrthwynebu prosesu
Ar gais, gallwn ddileu data personol o'r ymateb a gasglwyd gennym, gan gynnwys unrhyw fanylion cyswllt neu bersonol a roddir wrth lenwi'r holiadur ac unrhyw fanylion personol a gynhwysir yn nhestun eich ymatebion.
I ddysgu mwy am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Dylech gyfeirio unrhyw geisiadau o'r fath i'r
Swyddog Diogelu Data
Cymwysterau Cymru
Adeilad C2, Lôn Pencarn
Parc Imperial, Coedcernyw
Casnewydd NP10 8AR
01633 373222
Os ydych yn anfodlon â'n hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF