Asesiadau di-arholiad - Hysbysiad preifatrwydd Ymgysylltu â Dysgwyr
Fel rhan o'r Gweithgaredd ymgysylltu â dysgwyr hwn, byddwn yn cadw gwybodaeth y gellir eich adnabod ohoni ar eich ffurflenni cydsynio megis eich enw ac enw eich ysgol, coleg neu weithle. Mae angen i ni wneud hyn er mwyn cadw cofnodion priodol o'ch cydsyniad i gymryd rhan yn y gweithgaredd.
Fel rhan o'r Gweithgaredd ymgysylltu â dysgwyr hwn, byddwn yn cadw gwybodaeth y gellir eich adnabod ohoni ar eich ffurflenni cydsynio megis eich enw ac enw eich ysgol, coleg neu weithle. Mae angen i ni wneud hyn er mwyn cadw cofnodion priodol o'ch cydsyniad i gymryd rhan yn y gweithgaredd.
Rydym yn ymgymryd â'r gweithgaredd hwn ac yn cadw'r wybodaeth hon er mwyn cefnogi ein prif nodau sef:
- Sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr
- Hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a system gymwysterau Cymru.
Dim ond at y dibenion uchod y caiff eich gwybodaeth bersonol ei chadw. Caiff ei chadw'n ddiogel am 12 mis ar ôl i Cymwysterau Cymru gyhoeddi’r adroddiad ar ein canfyddiadau.
Cymwysterau Cymru fydd "rheolwr data" y wybodaeth bersonol a gyflwynwyd. Bydd AlphaPlus (cwmni ymchwil annibynnol trydydd parti) yn casglu ac yn storio'r data ar ein rhan. Ceir manylion am sut i gysylltu â ni isod.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, fod unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a gedwir gennym yn agored i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn ystyried Deddf Diogelu Data 2018 y DU a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) cyn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol y gofynnir amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gwneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch
- gofyn i Cymwysterau Cymru gywiro unrhyw wallau
- gofyn i'ch data personol gael eu dileu
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
- gwrthwynebu'r camau prosesu
- gwneud cais i'ch data gael eu cludo (cludadwyedd data)
Er mwyn dysgu rhagor am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Anfonwch unrhyw geisiadau o'r fath i
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn
Parc Imperial
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Ar gyfer AlphaPlus, cysylltwch â:
Unit 109 Albert Mill
50 Ellesmere Street
Castlefield
Manchester
M15 4JY
Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745