Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriad ar y Meini Prawf Cydnabod ar gyfer Cymwysterau TGAU / TAG a’r Rheolau am Geisiadau am Gydnabyddiaeth i Ddyfarnu Cymwysterau TGAU / TAG.
Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymgynghoriad hwn (megis eich enw, manylion cyswllt, gwaith neu leoliad) ei phrosesu yn unol â'r sail gyfreithiol sy'n ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheoleiddiwr y system gymwysterau yng Nghymru ac i arfer ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015. Cymwysterau Cymru fydd "Rheolydd Data" y data hyn.
Rydym yn cadw eich manylion cyswllt er mwyn bodloni gofynion ein polisi ymgynghori er mwyn cefnogi ein prif egwyddorion, sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a system gymwysterau Cymru.
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddibenion eraill heblaw am gyflawni ein tasg gyhoeddus. Caiff y data hyn eu storio ar weinyddwyr Smart Survey yn yr UE i ddechrau. Nid yw Smart Survey yn defnyddio eich ymatebion i arolygon gan mai cynnal y gwasanaeth ar ran Cymwysterau Cymru yn unig a wna. Cymwysterau Cymru sy'n berchen ar eich ymatebion ac yn eu rheoli (am ragor o fanylion darllenwch bolisi preifatrwydd Smart Survey yma). Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, caiff y data eu hallforio a'u dileu o Smart Survey o fewn tri mis a chânt eu trosglwyddo i'n systemau TG. Caiff data personol, gan gynnwys data a gasglwyd mewn unrhyw ymatebion i eitemau unigol yn ystod yr ymgynghoriad, eu dileu o'r set ddata 12 mis ar ôl cyhoeddi unrhyw adroddiadau ar ymgyngoriadau neu benderfyniadau. Caiff pob ymateb arall i eitemau unigol yn ystod yr ymgynghoriad ei ddileu ar ôl tair blynedd.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, fod unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a gedwir gennym yn agored i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn ystyried Deddf Diogelu Data
2018 y DU a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) cyn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol y gofynnir amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gwneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch
- gofyn i Cymwysterau Cymru gywiro unrhyw wallau
- gofyn am i'ch data personol gael eu dileu
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
- gwrthwynebu'r camau prosesu
Gallwn ddileu data personol o'r ymatebion a gasglwyd gennym os gofynnir i ni wneud hynny, gan gynnwys unrhyw fanylion cyswllt neu bersonol a roddwyd wrth gwblhau'r holiadur ac unrhyw fanylion personol sydd wedi'u cynnwys yn nhestun eich ymatebion.
Os ydym wedi cyhoeddi adroddiad sy'n defnyddio data personol a roddwyd yn eich ymateb, naill ai mewn dadansoddiad meintiol neu ar ffurf dyfyniadau, ni fyddai modd i ni ei eu dileu o'r adroddiad.
Am fwy o wybodaeth am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Anfonwch unrhyw geisiadau o'r fath at
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru Cymwysterau Cymru Adeilad Q2, Lôn Pencarn, Parc Imperial, Coedcernyw Casnewydd NP10 8AR
01633 373222
Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office Wycliffe House Water Lane Wilmslow Cheshire SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745