Hysbysiad preifatrwydd – Caffael a Chontractwyr
Cymwysterau Cymru fydd Rheolydd y wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni fel rhan o'r broses gaffael.
Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu yn unol â'r sail gyfreithiol bod hynny'n angenrheidiol er mwyn cymryd camau ar eich cais i ymrwymo i gontract ar gyfer Gwasanaethau neu Nwyddau (Erthygl 6(1)(b) o'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol).
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am hyd ein contract â chi ac ar ôl hynny yn unol â'n hatodlen gadw.
Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich manylion i drydydd parti sy'n prosesu data ar ein rhan pan fydd angen gwneud hyn er mwyn hwyluso'r broses dalu ac i gyflawni'r contract (er enghraifft, er mwyn gwneud taliadau i'r Ymgynghorydd) neu i ddadansoddi data trydydd parti ar wariant. Yn unol â'i gontract, mae'n ofynnol i bob trydydd parti sy'n prosesu data personol ar ran y Cleient gydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE. Mae mesurau diogelu sefydliadol a thechnolegol priodol ar waith er mwyn sicrhau diogelwch y data.
Noder ein bod yn cyhoeddi cofrestr contract ar ein gwefan yn nodi pob contract a ddyfernir yn cynnwys enw'r cyflenwr, enw'r contract, dyddiadau dechrau a dod i ben y cytundeb a chyfanswm gwerth y contract (lle y bo'n briodol).
Byddwn yn cadw gwybodaeth am ymgeiswyr aflwyddiannus am 3 blynedd yn dilyn y flwyddyn ariannol y dyfarnwyd y contract ynddi. Yna, caiff ei dinistrio.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, fod unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a gedwir gennym yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn ystyried y Ddeddf Diogelu Data a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) cyn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol y gofynnir amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gwneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch
- gofyn i Cymwysterau Cymru gywiro unrhyw wallau
- gofyn i'ch data personol gael eu dileu
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
- gwrthwynebu'r camau prosesu
- gwneud cais i'ch data gael eu cludo (cludadwyedd data)
Er mwyn dysgu rhagor am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Anfonwch unrhyw geisiadau o'r fath at
Swyddog Diogelu Data
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn
Parc Imperial
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
ymholiadau@cymwysteraucymru.org
Os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.