Hysbysiad Preifatrwydd - Ymchwil ansoddol TGAU diwygiedig
Caiff gwybodaeth sy'n adnabod unigolion (enw, enw'r ganolfan, teitl swydd) ei chasglu drwy'r holiadur/grŵp ffocws/cyfweliad hwn.
Pwrpas prosesu yw casglu gwybodaeth gan athrawon a rhai rhanddeiliaid am sut y mae’r cymwysterau newydd yn gweithio a pha effaith y mae'r newidiadau yn eu cael. Gwnawn hyn er mwyn cefnogi ein prif nodau sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a system gymwysterau Cymru.
Ein sail gyfreithlon dros gadw'r wybodaeth hon yw er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheoleiddiwr y system gymwysterau yng Nghymru ac er mwyn cyflawni ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Cymwysterau Cymru fydd Rheolwr Data unrhyw ddata personol a gaiff eu cyflwyno yn yr arolwg. Bydd cwmni ymchwil annibynnol trydydd parti (Wavehill Ltd) yn prosesu'r data ar ein rhan.
Defnyddir meddalwedd Qualtrics i gynnal yr arolwg ar-lein a gellir dod o hyd i'w datganiad preifatrwydd yma https://www.qualtrics.com/privacy-statement/
Dim ond at y dibenion uchod y caiff eich gwybodaeth bersonol ei chadw. Caiff ei chadw'n ddiogel am 12 mis ar ôl cwblhau'r prosiect ymchwil ac yna caiff ei dinistrio.
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddibenion heblaw am gyflawni ein tasg gyhoeddus.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, fod unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a gedwir gennym yn agored i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn ystyried Deddf Diogelu Data 2018 y DU a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) cyn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol y gofynnir amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gwneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Cymwysterau Cymru a Wavehill yn ei chadw amdanoch
- gofyn i unrhyw wallau gael eu cywiro
- gofyn i'ch data personol gael eu dileu
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
- gwrthwynebu'r camau prosesu gwneud cais i'ch data gael eu cludo (cludadwyedd data)
Am fwy o wybodaeth am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gallwch anfon unrhyw geisiadau o'r fath i:
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn,
Imperial Park,
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Gallwch gysylltu â Wavehill yn uniongyrchol yn y cyfeiriad canlynol:
Wavehill Ltd
21 Sgwâr Alban
Aberaeron
SA46 0DB.
01545 571711.
Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745