Addasiadau i asesiadau 2021/2022
Addasiadau i asesiadau ar gyfer TGAU, UG, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol
Hydref diwethaf, fe wnaethon ni rannu gwybodaeth gydag ysgolion a cholegau i egluro’r newidiadau (neu addasiadau, fel rydyn ni’n eu galw nhw) i asesiadau. Y rheswm am hyn roedd er mwyn rhoi digon o amser i ysgolion a cholegau allu paratoi ar gyfer yr arholiadau fydd yn digwydd yr haf yma. Mae newidiadau wedi cael eu gwneud i gymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol i adlewyrchu’r tarfu sydd wedi bod ar ddysgu ac addysgu.
Bydd y newidiadau yn dibynnu ar gynllun y cymwysterau. Am ragor o wybodaeth ar bwnc penodol, gweler:
CBAC Haf 2022: Addasiadau i TGAU
CBAC Haf 2022: Addasiadau i gymwysterau galwedigaethol
CBAC Haf 2022: Addasiadau i UG a Safon Uwch
Pa newidiadau sy’n digwydd eleni? | |
Addasiadau i asesiadau di-arholiad (ADA) |
Gellir lleihau'r asesiad ADA a gellir llacio sut neu ble y cynhelir yr asesiad er mwyn cynyddu'r siawns y bydd dysgwyr yn gallu ei gwblhau. |
Symleiddio cynnwys yr asesiad |
Dylai canolfannau barhau i addysgu holl gynnwys y fanyleb, lle bo hynny'n bosibl. Fodd bynnag, mae'r symleiddio yn caniatáu gwneud y mwyaf o amser addysgu a dysgu trwy ganolbwyntio’r gwaith o baratoi at arholiadau ar lai o asesu. Mae'n helpu dysgwyr i ganolbwyntio amser paratoi at arholiadau ar lai o ddeunydd. |
Gwybodaeth ymlaen llaw |
Darperir gwybodaeth am yr hyn a fydd yn cael ei asesu ar adegau y cytunwyd arnynt cyn i'r asesiad gael ei gynnal. Pan ddefnyddiwyd y dull hwn o'r blaen, gellir darparu gwybodaeth yn gynharach na'r arfer. Ar gyfer cymwysterau lle nad yw hyn wedi'i ddefnyddio o'r blaen, gellir ei gyflwyno am y tro cyntaf ar gyfer rhai cymwysterau. |
Dileu uned gyfan |
Ar gyfer rhai cymwysterau, caiff uned asesu ei dileu:
|
Opsiynau mewn unedau (ar gyfer rhai cymwysterau TGAU) |
Ar gyfer cymwysterau TGAU unedol (fel Cymraeg Ail Iaith a Hanes) lle nad oes patrwm cofrestru cyson ar gyfer unedau ar draws canolfannau, mae opsiwn i ddewis o blith dewis o unedau. Nid oes unrhyw newidiadau i gynnwys ac asesiad yr unedau a astudir. |