Y camau nesaf i ddysgwyr
Rwyt ti wedi derbyn dy ganlyniadau – beth nesaf? Unwaith bydd canlyniadau eleni wedi cael eu cyhoeddi, bydd dysgwyr a rhieni’n chwilio am gyngor ac yn gwneud penderfyniadau ar y camau nesaf. Gwylia ein fideo 'Beth nesaf i ddysgwyr?' i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael.
Cer i'n tudalen cymorth a chefnogaeth am ddolenni i adnoddau ychwanegol.